Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mawrth 2018
Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B – Gofyniad am Asesiadau Effaith ar Gyfiawnder (adran 110A o'r Ddeddf)
Diben
1. Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys unrhyw gynigion i ail-wneud neu ddiwygio'r Rheolau Sefydlog.
2. Mae'r adroddiad yn argymell diwygiadau i Reolau Sefydlog 26, 26A a 26B – ar gyfer Biliau Cyhoeddus, Biliau Preifat a Biliau Hybrid – i ddarparu ar gyfer gofyniad newydd am Asesiadau Effaith ar Gyfiawnder ar gyfer holl Filiau'r Cynulliad (adran 110A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (y Ddeddf)). Mae'r newidiadau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Busnes i'w gweld yn Atodiad A, ac mae'r cynigion ar gyfer Rheolau Sefydlog newydd i'w gweld yn Atodiad B.
Y cefndir
3. Cafodd adran 110A o'r Ddeddf ei mewnosod gan adran 11 o Ddeddf Cymru 2017, a bydd yn dod i rym ar y Prif Ddiwrnod Penodedig, sef 1 Ebrill 2018, drwy Orchymyn Cychwyn. Bydd yn ei gwneud yn ofynnol y cyhoeddir Asesiad Effaith ar Gyfiawnder ar gyfer pob Bil Cynulliad ar adeg ei gyflwyno neu cyn hynny. Rhaid i'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil wneud datganiad ysgrifenedig yn nodi'r effaith bosibl (os o gwbl) ar y system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr yn sgil darpariaethau'r Bil. O dan y Ddeddf, rhaid cynnwys y ddarpariaeth newydd yn Rheolau Sefydlog y Cynulliad. Rhaid i'r Rheolau Sefydlog hefyd bennu ffurf yr Asesiad Effaith ar Gyfiawnder a'r dull ar gyfer ei gyflawni.
4. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi ystyried sut y dylid adlewyrchu'r gofyniad statudol newydd hwn yn Rheolau Sefydlog y Cynulliad ynghylch deddfwriaeth, gyda'r newidiadau yn dod i rym ar 1 Ebrill 2018, er mwyn i dimau Biliau allu paratoi Asesiadau Effaith ar Gyfiawnder ar gyfer Biliau a gaiff eu cyflwyno o'r dyddiad hwnnw ymlaen.
Cynigion ar gyfer newidiadau i Reolau Sefydlog
5. Mae'r gofynion presennol ar gyfer dogfennau i gyd-fynd â Bil Cynulliad ar adeg ei gyflwyno wedi'u nodi yn Rheol Sefydlog 26 – Deddfau'r Cynulliad, ac yn cael eu hategu yn Rheolau Sefydlog 26A a 26B ar weithdrefnau Biliau Preifat a Biliau Hybrid. Ynghyd â'r gofyniad am ddatganiad gan y Llywydd ar gymhwysedd deddfwriaethol (Rheol Sefydlog 26.5), rhaid cynnwys y rhan fwyaf o ofynion eraill yn y Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â phob Bil ar adeg ei gyflwyno.
6. Mae'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â Bil yn cynnwys yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Bil hwnnw a manylion Asesiadau Effaith penodol eraill y mae'n ofynnol neu'n ddymunol iddynt gael eu cynnal cyn cyflwyno'r Bil (e.e. ar gydraddoldeb, y Gymraeg, effeithiau iechyd ac ati). Felly, cynigir y byddai'n briodol ei gwneud yn ofynnol i'r Asesiad Effaith ar Gyfiawnder gael ei osod fel rhan o'r Memorandwm Esboniadol hefyd, fel y nodir yn y newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog yn Atodiad A. Gan fod yn rhaid i'r Memorandwm Esboniadol gael ei osod, a bydd bob amser yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cynulliad ochr yn ochr â'r Bil, mae'r dull hwn yn sicrhau y bydd y gofyniad statudol i gyhoeddi Asesiad Effaith ar Gyfiawnder yn cael ei fodloni'n awtomatig.
7. Yn ôl adran 110A fel y'i drafftiwyd, rhaid i'r Rheolau Sefydlog bennu ffurf a dull yr Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb, ond mae'n ei adael i'r Cynulliad benderfynu sut i wneud hynny. Nid yw'r Rheolau Sefydlog yn rhoi unrhyw gyfarwyddyd ar hyn o bryd ar ffurf a dull asesiadau effaith rheoleiddiol eraill, ac mae'n fater i aelodau'r pwyllgor cyfrifol benderfynu a yw'r wybodaeth a roddwyd iddynt yn ddigonol er mwyn craffu'n briodol ar Fil Cynulliad. Felly, nid yw'r newidiadau a gynigir i'r Rheolau Sefydlog yn mynd y tu hwnt i'r hyn sydd ei angen er mwyn cydymffurfio â gofynion adran 110A, ac maent yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd. Fel y nodwyd uchod, bydd swyddogion yn cysylltu â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ddatblygu fformat cyffredin ar gyfer Asesiadau Effaith ar Gyfiawnder. Disgwylir i'r cynnwys amrywio'n sylweddol yn dibynnu ar natur y Bil dan sylw a'i effaith debygol ar gyfiawnder. Unwaith y bydd Asesiadau Effaith ar Gyfiawnder yn dechrau cael eu cyhoeddi ar gyfer Biliau, mater i'r pwyllgorau fydd gofyn am ragor o wybodaeth neu newid cyfeiriad os byddant o'r farn bod angen gwneud hynny.
Camau i’w cymryd
8. Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i Reolau Sefydlog 26, 26A a 26B yn ffurfiol ar 6 Mawrth 2018 a gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo'r cynigion a nodir yn Atodiad B a ddaw i rym o 1 Ebrill 2018.
Atodiad A
Newidiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 26, 26A a 26B
RHEOL SEFYDLOG 26 – Deddfau’r Cynulliad |
||
|
Dogfennau i Gyd-fynd â Bil |
|
26.6 |
Ar yr un pryd ag y bydd yr Aelod sy’n gyfrifol yn cyflwyno Bil, rhaid iddo osod Memorandwm Esboniadol y mae’n rhaid iddo: (i) datgan y byddai darpariaethau’r Bil, ym marn yr Aelod, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad; (ii) nodi amcanion polisi y Bil; (iii) nodi a gafodd ffyrdd eraill o wireddu’r amcanion polisi eu hystyried ac, os felly, pam y cafodd yr ymagwedd a gymerir yn y Bil ei mabwysiadu; (iv) nodi’r ymgynghori, os o gwbl, a gafwyd ar y canlynol: (a) amcanion polisi y Bil a’r ffyrdd o’u gwireddu; (b) manylion y Bil, ac (c) Bil drafft, naill ai yn llawn neu’n rhannol (ac os yn rhannol, pa rannau); (v) nodi crynodeb o ddeilliant yr ymgynghori hwnnw, gan gynnwys sut a pham y mae unrhyw Fil drafft wedi cael ei ddiwygio; (vi) os na chyhoeddwyd y Bil, neu ran o'r Bil, yn flaenorol fel drafft, datgan y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw; (vii) crynhoi yn wrthrychol yr hyn y bwriedir i bob un o ddarpariaethau’r Bil ei wneud (i’r graddau y mae angen esbonio hynny neu y mae angen cyflwyno sylwadau ar hynny) a rhoi’r wybodaeth arall sy’n angenrheidiol i esbonio effaith y Bil; (viii) nodi’r amcangyfrifon gorau o’r canlynol: (a) y costau gweinyddol gros, y costau cydymffurfio gros a’r costau gros eraill y byddai darpariaethau’r Bil yn arwain atynt; (b) yr arbedion gweinyddol y byddai'r Bil yn arwain atynt; (c) costau gweinyddol net darpariaethau'r Bil; (d) dros ba gyfnodau amser y disgwylid i'r holl gostau ac arbedion hynny godi; ac (e) ar bwy y byddai’r costau’n syrthio; (ix) nodi unrhyw fanteision ac anfanteision amgylcheddol a chymdeithasol sy'n deillio o'r Bil na ellir eu mesur yn ariannol; (x) os yw’r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n rhoi pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, nodi mewn perthynas â phob darpariaeth o’r fath: (a) y person neu’r corff y rhoddir y pŵer iddo ac ym mha fodd y mae’r pŵer i gael ei arfer; (b) pam y bernir ei bod yn briodol dirprwyo’r pŵer; ac (c) y weithdrefn Cynulliad (os oes un) y mae’r is-ddeddfwriaeth a wnaed neu sydd i’w gwneud wrth arfer y pŵer i ddod oddi tani, a pham y barnwyd ei bod yn briodol ei gosod ei gosod o dan y weithdrefn honno (ac nid ei gosod o dan unrhyw weithdrefn arall);
(ix) os yw’r Bil yn
cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n codi gwariant ar Gronfa
Gyfunol Cymru, ymgorffori adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol
sy’n nodi ei farn ef ar a yw’r tâl yn briodol neu
beidio (xii) nodi'r effaith bosibl (os o gwbl) ar y system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr yn sgil darpariaethau'r Bil ("asesiad effaith ar gyfiawnder"), yn unol ag adran 110A o'r Ddeddf. |
Diwygio'r Rheol Sefydlog Cynigir ychwanegu pwynt ychwanegol (xii) at yr elfennau y mae'n rhaid eu nodi yn y Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Bil, er mwyn cynnwys y gofyniad statudol ar gyfer Asesiad Effaith ar Gyfiawnder a nodir yn adran 110A newydd y Ddeddf. Gan fod rhaid i'r Memorandwm Esboniadol gael ei osod, a bydd bob amser yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cynulliad ochr yn ochr â'r Bil, mae'r dull hwn yn sicrhau y bydd y gofyniad i gyhoeddi Asesiad Effaith ar Gyfiawnder yn cael ei fodloni'n awtomatig. Sylwer: Gwnaed cywiriad golygyddol i bwynt (ix) i'w gwneud yn gliriach. |
RHEOL SEFYDLOG 26A – Deddfau Preifat y Cynulliad |
||
|
Dogfennau i Gyd-fynd â Bil Preifat |
|
26A.13 |
Ar yr un pryd ag y bydd hyrwyddwr yn cyflwyno Bil Preifat, rhaid hefyd iddo osod Memorandwm Esboniadol yn Gymraeg a Saesneg y mae’n rhaid iddo: (i) datgan y byddai darpariaethau’r Bil Preifat, ym marn yr hyrwyddwr, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad; (ii) nodi’r rhesymau pam y mae darpariaethau’r Bil yn ei gwneud yn briodol iddo fynd rhagddo fel Bil Preifat, gan roi sylw penodol i’r meini prawf yn Rheol Sefydlog 26A.45; (iii) nodi amcanion y Bil Preifat; (iv) nodi a gafodd ffyrdd eraill o wireddu’r amcanion eu hystyried ac, os felly, pam y cafodd yr ymagwedd a gymerir yn y Bil Preifat ei mabwysiadu; (v) nodi’r ymgynghori a gafwyd ar y canlynol: (a) amcanion y Bil Preifat a’r ffyrdd o’u gwireddu; a (b) manylion y Bil Preifat, ynghyd â chrynodeb o ddeilliant yr ymgynghori hwnnw; (vi) crynhoi yn wrthrychol yr hyn y bwriedir i bob un o ddarpariaethau’r Bil Preifat ei wneud (i’r graddau y mae angen esbonio hynny neu y mae angen cyflwyno sylwadau ar hynny) a rhoi’r wybodaeth arall sy’n angenrheidiol i esbonio effaith y Bil; a (vii) nodi'r effaith bosibl (os o gwbl) ar y system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr yn sgil darpariaethau'r Bil ("asesiad effaith ar gyfiawnder"), yn unol ag adran 110A o'r Ddeddf. |
Diwygio'r Rheol Sefydlog Cynigir ychwanegu pwynt ychwanegol (vii) at yr elfennau y mae'n rhaid eu nodi yn y Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Bil Preifat, er mwyn cynnwys y gofyniad statudol ar gyfer Asesiad Effaith ar Gyfiawnder a nodir yn adran 110A newydd y Ddeddf. Gan fod rhaid i'r Memorandwm Esboniadol gael ei osod, a bydd bob amser yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cynulliad ochr yn ochr â'r Bil, mae'r dull hwn yn sicrhau y bydd y gofyniad i gyhoeddi Asesiad Effaith ar Gyfiawnder yn cael ei fodloni'n awtomatig.
|
RHEOL SEFYDLOG 26B - Deddfau Hybrid y Cynulliad |
||
|
Dogfennau i Gyd-fynd â Bil Hybrid |
|
26B.9 |
Ar yr un pryd ag y bydd yr Aelod sy’n gyfrifol yn cyflwyno Bil Hybrid, rhaid iddo hefyd osod Memorandwm Esboniadol, yn Gymraeg a Saesneg, y mae’n rhaid iddo: (i) datgan y byddai darpariaethau’r Bil Hybrid, yn ei farn ef, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad; (ii) nodi’r rhesymau pam y mae darpariaethau’r Bil yn ei gwneud yn briodol iddo fynd rhagddo fel Bil Hybrid, gan roi sylw penodol i’r meini prawf yn Rheol Sefydlog 26B.43; (iii) nodi amcanion y Bil Hybrid; (iv) nodi a gafodd ffyrdd eraill o wireddu’r amcanion eu hystyried ac, os felly, pam y cafodd yr ymagwedd a gymerir yn y Bil Hybrid ei mabwysiadu; (v) nodi’r ymgynghori a gafwyd ar y canlynol: (a) amcanion y Bil Hybrid a’r ffyrdd o’u gwireddu; a (b) manylion y Bil Hybrid, a (c) Bil drafft, naill ai yn llawn neu’n rhannol (ac os yn rhannol, pa rannau); (vi) nodi crynodeb o ddeilliant yr ymgynghori hwnnw, gan gynnwys sut a pham y mae unrhyw Fil drafft wedi cael ei ddiwygio; (vii) os na chyhoeddwyd y Bil, neu ran o'r Bil, yn flaenorol fel drafft, datgan y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw; (viii) crynhoi yn wrthrychol yr hyn y bwriedir i bob un o ddarpariaethau’r Bil Hybrid ei wneud (i’r graddau y mae angen esbonio hynny neu y mae angen cyflwyno sylwadau ar hynny) a rhoi’r wybodaeth arall sy’n angenrheidiol i esbonio effaith y Bil; (ix) yn achos Bil nad yw Rheol Sefydlog 26B.2 yn gymwys iddo, nodi'r amcangyfrifon gorau o'r canlynol: (a) y costau gweinyddol gros, y costau cydymffurfio gros a’r costau gros eraill y byddai darpariaethau’r Bil yn arwain atynt; (b) yr arbedion gweinyddol y byddai'r Bil yn arwain atynt; (c) costau gweinyddol net darpariaethau'r Bil; (d) dros ba gyfnodau amser y disgwylid i'r holl gostau ac arbedion hynny godi; ac (e) ar bwy y byddai’r costau’n syrthio; (x) nodi unrhyw fanteision ac anfanteision amgylcheddol a chymdeithasol sy'n deillio o'r Bil na ellir eu mesur yn ariannol; (xi) os yw’r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n rhoi pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, nodi mewn perthynas â phob darpariaeth o’r fath: (a) y person neu’r corff y rhoddir y pŵer iddo ac ym mha fodd y mae’r pŵer i gael ei arfer; (b) pam y bernir ei bod yn briodol dirprwyo’r pŵer; ac
(c) y weithdrefn
Cynulliad (os oes un) y mae’r is-ddeddfwriaeth a wnaed neu
sydd i’w gwneud wrth arfer y pŵer i ddod oddi tani, a
pham y barnwyd ei bod yn briodol ei gosod o dan y weithdrefn honno
(ac nid ei gosod o dan unrhyw weithdrefn arall);
(xii) os yw’r Bil yn cynnwys
unrhyw ddarpariaeth sy’n codi gwariant ar Gronfa Gyfunol
Cymru, ymgorffori adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol
sy’n nodi ei farn ef ar a yw’r tâl yn briodol neu
beidio (xiii) nodi'r effaith bosibl (os o gwbl) ar y system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr yn sgil darpariaethau'r Bil ("asesiad effaith ar gyfiawnder"), yn unol ag adran 110A o'r Ddeddf. |
Diwygio'r Rheol Sefydlog Cynigir ychwanegu pwynt ychwanegol (xiii) at yr elfennau y mae'n rhaid eu nodi yn y Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Bil Hybrid, er mwyn cynnwys y gofyniad statudol ar gyfer Asesiad Effaith ar Gyfiawnder a nodir yn adran 110A newydd y Ddeddf. Gan fod rhaid i'r Memorandwm Esboniadol gael ei osod, a bydd bob amser yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cynulliad ochr yn ochr â'r Bil, mae'r dull hwn yn sicrhau y bydd y gofyniad i gyhoeddi Asesiad Effaith ar Gyfiawnder yn cael ei fodloni'n awtomatig. Sylwer: Gwnaed cywiriad golygyddol i bwynt (x) i'w gwneud yn gliriach. |
Atodiad B
RHEOL SEFYDLOG 26 – Deddfau’r Cynulliad
Dogfennau i Gyd-fynd â Bil
26.6 Ar yr un pryd ag y bydd yr Aelod sy’n gyfrifol yn cyflwyno Bil, rhaid iddo osod Memorandwm Esboniadol y mae’n rhaid iddo:
(i) datgan y byddai darpariaethau’r Bil, ym marn yr Aelod, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad;
(ii) nodi amcanion polisi y Bil;
(iii) nodi a gafodd ffyrdd eraill o wireddu’r amcanion polisi eu hystyried ac, os felly, pam y cafodd yr ymagwedd a gymerir yn y Bil ei mabwysiadu;
(iv) nodi’r ymgynghori, os o gwbl, a gafwyd ar y canlynol:
(a) amcanion polisi y Bil a’r ffyrdd o’u gwireddu;
(b) manylion y Bil, ac
(c) Bil drafft, naill ai yn llawn neu’n rhannol (ac os yn rhannol, pa rannau);
(v) nodi crynodeb o ddeilliant yr ymgynghori hwnnw, gan gynnwys sut a pham y mae unrhyw Fil drafft wedi cael ei ddiwygio;
(vi) os na chyhoeddwyd y Bil, neu ran o'r Bil, yn flaenorol fel drafft, datgan y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw;
(vii) crynhoi yn wrthrychol yr hyn y bwriedir i bob un o ddarpariaethau’r Bil ei wneud (i’r graddau y mae angen esbonio hynny neu y mae angen cyflwyno sylwadau ar hynny) a rhoi’r wybodaeth arall sy’n angenrheidiol i esbonio effaith y Bil;
(viii) nodi’r amcangyfrifon gorau o’r canlynol:
(a) y costau gweinyddol gros, y costau cydymffurfio gros a’r costau gros eraill y byddai darpariaethau’r Bil yn arwain atynt;
(b) yr arbedion gweinyddol y byddai'r Bil yn arwain atynt;
(c) costau gweinyddol net darpariaethau'r Bil;
(d) dros ba gyfnodau amser y disgwylid i'r holl gostau ac arbedion hynny godi; ac
(e) ar bwy y byddai’r costau’n syrthio;
(ix) nodi unrhyw fanteision ac anfanteision amgylcheddol a chymdeithasol sy'n deillio o'r Bil na ellir eu mesur yn ariannol;
(x) os yw’r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n rhoi pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, nodi mewn perthynas â phob darpariaeth o’r fath:
(a) y person neu’r corff y rhoddir y pŵer iddo ac ym mha fodd y mae’r pŵer i gael ei arfer;
(b) pam y bernir ei bod yn briodol dirprwyo’r pŵer; ac
(c) y weithdrefn Cynulliad (os oes un) y mae’r is-ddeddfwriaeth a wnaed neu sydd i’w gwneud wrth arfer y pŵer i ddod oddi tani, a pham y barnwyd ei bod yn briodol ei gosod ei gosod o dan y weithdrefn honno (ac nid ei gosod o dan unrhyw weithdrefn arall);
(ix) os yw’r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n codi gwariant ar Gronfa Gyfunol Cymru, ymgorffori adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol sy’n nodi ei farn ef ar a yw’r tâl yn briodol neu beidio; a
(xii) nodi'r effaith bosibl (os o gwbl) ar y system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr yn sgil darpariaethau'r Bil ("asesiad effaith ar gyfiawnder"), yn unol ag adran 110A o'r Ddeddf.
RHEOL SEFYDLOG 26A – Deddfau Preifat y Cynulliad
Dogfennau i Gyd-fynd â Bil Preifat
26A.13 Ar yr un pryd ag y bydd hyrwyddwr yn cyflwyno Bil Preifat, rhaid hefyd iddo osod Memorandwm Esboniadol yn Gymraeg a Saesneg y mae’n rhaid iddo:
(i) datgan y byddai darpariaethau’r Bil Preifat, ym marn yr hyrwyddwr, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad;
(ii) nodi’r rhesymau pam y mae darpariaethau’r Bil yn ei gwneud yn briodol iddo fynd rhagddo fel Bil Preifat, gan roi sylw penodol i’r meini prawf yn Rheol Sefydlog 26A.45;
(iii) nodi amcanion y Bil Preifat;
(iv) nodi a gafodd ffyrdd eraill o wireddu’r amcanion eu hystyried ac, os felly, pam y cafodd yr ymagwedd a gymerir yn y Bil Preifat ei mabwysiadu;
(v) nodi’r ymgynghori a gafwyd ar y canlynol:
(a) amcanion y Bil Preifat a’r ffyrdd o’u gwireddu; a
(b) manylion y Bil Preifat,
ynghyd â chrynodeb o ddeilliant yr ymgynghori hwnnw;
(vi) crynhoi yn wrthrychol yr hyn y bwriedir i bob un o ddarpariaethau’r Bil Preifat ei wneud (i’r graddau y mae angen esbonio hynny neu y mae angen cyflwyno sylwadau ar hynny) a rhoi’r wybodaeth arall sy’n angenrheidiol i esbonio effaith y Bil; a
(vii) nodi'r effaith bosibl (os o gwbl) ar y system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr yn sgil darpariaethau'r Bil ("asesiad effaith ar gyfiawnder"), yn unol ag adran 110A o'r Ddeddf.
RHEOL SEFYDLOG 26B - Deddfau Hybrid y Cynulliad
Dogfennau i Gyd-fynd â Bil Hybrid
26B.9 Ar yr un pryd ag y bydd yr Aelod sy’n gyfrifol yn cyflwyno Bil Hybrid, rhaid iddo hefyd osod Memorandwm Esboniadol, yn Gymraeg a Saesneg, y mae’n rhaid iddo:
(i) datgan y byddai darpariaethau’r Bil Hybrid, yn ei farn ef, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad;
(ii) nodi’r rhesymau pam y mae darpariaethau’r Bil yn ei gwneud yn briodol iddo fynd rhagddo fel Bil Hybrid, gan roi sylw penodol i’r meini prawf yn Rheol Sefydlog 26B.43;
(iii) nodi amcanion y Bil Hybrid;
(iv) nodi a gafodd ffyrdd eraill o wireddu’r amcanion eu hystyried ac, os felly, pam y cafodd yr ymagwedd a gymerir yn y Bil Hybrid ei mabwysiadu;
(v) nodi’r ymgynghori a gafwyd ar y canlynol:
(a) amcanion y Bil Hybrid a’r ffyrdd o’u gwireddu; a
(b) manylion y Bil Hybrid, a
(c) Bil drafft, naill ai yn llawn neu’n rhannol (ac os yn rhannol, pa rannau);
(vi) nodi crynodeb o ddeilliant yr ymgynghori hwnnw, gan gynnwys sut a pham y mae unrhyw Fil drafft wedi cael ei ddiwygio;
(vii) os na chyhoeddwyd y Bil, neu ran o'r Bil, yn flaenorol fel drafft, datgan y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw;
(viii) crynhoi yn wrthrychol yr hyn y bwriedir i bob un o ddarpariaethau’r Bil Hybrid ei wneud (i’r graddau y mae angen esbonio hynny neu y mae angen cyflwyno sylwadau ar hynny) a rhoi’r wybodaeth arall sy’n angenrheidiol i esbonio effaith y Bil;
(ix) yn achos Bil nad yw Rheol Sefydlog 26B.2 yn gymwys iddo, nodi'r amcangyfrifon gorau o'r canlynol:
(a) y costau gweinyddol gros, y costau cydymffurfio gros a’r costau gros eraill y byddai darpariaethau’r Bil yn arwain atynt;
(b) yr arbedion gweinyddol y byddai'r Bil yn arwain atynt;
(c) costau gweinyddol net darpariaethau'r Bil;
(d) dros ba gyfnodau amser y disgwylid i'r holl gostau ac arbedion hynny godi; ac
(e) ar bwy y byddai’r costau’n syrthio;
(x) nodi unrhyw fanteision ac anfanteision amgylcheddol a chymdeithasol sy'n deillio o'r Bil na ellir eu mesur yn ariannol;
(xi) os yw’r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n rhoi pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, nodi mewn perthynas â phob darpariaeth o’r fath:
(a) y person neu’r corff y rhoddir y pŵer iddo ac ym mha fodd y mae’r pŵer i gael ei arfer;
(b) pam y bernir ei bod yn briodol dirprwyo’r pŵer; ac
(c) y weithdrefn Cynulliad (os oes un) y mae’r is-ddeddfwriaeth a wnaed neu sydd i’w gwneud wrth arfer y pŵer i ddod oddi tani, a pham y barnwyd ei bod yn briodol ei gosod o dan y weithdrefn honno (ac nid ei gosod o dan unrhyw weithdrefn arall);
(xii) os yw’r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n codi gwariant ar Gronfa Gyfunol Cymru, ymgorffori adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol sy’n nodi ei farn ef ar a yw’r tâl yn briodol neu beidio; a
(xiii) nodi'r effaith bosibl (os o gwbl) ar y system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr yn sgil darpariaethau'r Bil ("asesiad effaith ar gyfiawnder"), yn unol ag adran 110A o'r Ddeddf.